To find Fairtrade goods in Brecon click here

Gr?p Llywio Tref Fasnach Deg Aberhonddu - Cyfansoddiad

Enw:

Gr?p Llywio Tref Fasnach Deg Aberhonddu (y cyfeirir ato isod fel "y Gr?p")


Amcanion:
  • Hyrwyddo'r cysyniad o Fasnach Deg
  • Codi ymwybyddiaeth o Farc Masnach Deg ymhlith busnesau, manwerthwyr, cyflogwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol yn Aberhonddu
  • Cynyddu gwerthiant o gynnyrch Masnach Deg yn Aberhonddu
  • Cynnal ac adeiladu statws Aberhonddu fel Tref Fasnach Deg yn unol â'r canllawiau a ddosbarthwyd gan Sefydliad y Fasnach Deg

Pwerau:
O ddilyn amcanion Cymal 2, bydd gan y Gr?p yr awdurdod i :
  • Godi arian
  • Trefnu achlysuron
  • Rhoi cyhoeddusrwydd i achlysuron, gweithgareddau a materion drwy bob dull priodol
  • Tanysgrifio neu gydweithredu gyda grwpiau a chymdeithasau perthnasol eraill
  • Penodi is-bwyllgorau i ymgymryd â thasgau penodol
  • Diwallu gofynion iechyd a diogelwch a pha ofynion bynnag eraill a all fod yn berthnasol i weithgareddau grwp.

Aelodaeth:

Bydd aelodaeth y Grwp yn agored i unigolion a chynrychiolwyr grwpiau a chymdeithasau eraill, sy'n weithiol o fewn tref Aberhonddu ac sydd â diddordeb ac yn ymrwymedig i'r amcanion yng Nghymal 2.

Mae'n ofynnol i'r Grwp gynnwys un cynrychiolydd o Gyngor Tref Aberhonddu. Dylai amrediad eang arall o grwpiau gael eu cynrychioli, gan gynnwys eglwysi, manwerthwyr Masnach Deg, cymdeithasau gwirfoddol, busnesau ac ysgolion.

  • Ni ddylai unrhyw gymdeithas gael mwy nag un cynrychiolydd ar y Grwp.
  • Derbynnir aelodau newydd drwy gytundeb y mwyafrif o aelodau presennol y Grwp.
  • Dylai uchafswm niferoedd y Grwp fod yn 15.
  • Mae'n bosib i unigolion a chymdeithasau sy'n cefnogi yr amcanion yng Nghymal 2 ond nad ydynt am wasanaethu ar y Grwp Llywio, gael eu cynnwys fel Aelodau Cyswllt. Hysbysir yr Aelodau Cyswllt am weithgareddau'r Grwp ac fe'u gwahoddir i gymryd rhan mewn achlysuron a'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Swyddogion:

Cadeirydd, Trysorydd, Ysgrifennydd, Swyddog Cyhoeddusrwydd.

Y Swyddogion i'w hethol gan y Grwp gan ddal y swyddogaeth am flwyddyn neu hyd nes y cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, pryd y mae'n bosibl iddynt gael eu hail-ethol.


Cyfarfodydd :
  • Heb fod yn llai na 4 y flwyddyn (gan gynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol)
  • O leiaf 7 diwrnod o rybudd ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol
  • Mae'n bosibl i unrhyw aelod o'r Grwp gyflwyno eitemau ar gyfer yr agenda
  • Mae'n ofynnol i o leiaf 3 aelod o'r Grwp fod yn bresennol pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud.

Penderfyniadau i'w gwneud drwy gonsensws pan fo hynny'n bosibl. Os bydd angen pleidlais, bydd gan bob aelod o'r Grwp un bleidlais. Bydd gan y Cadeirydd bleidlais ddyfarnu lle bo hynny'n angenrheidiol.

Gellir gofyn i unrhyw aelod o'r Grwp sy'n methu mynychu mwy na 4 cyfarfod yn olynol, heb gyflwyno ymddiheuriad, i gadarnhau ei ddiddordeb i barhau'n aelod.


Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:

I'w gynnal ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Tair wythnos o rybudd i'w roi ynglyn â'r dyddiad a'r cyfarfod i'w hysbysebu'n gyhoeddus. Y materion trafod i gynnwys :

  • Adolygu gweithgareddau'r Grwp yn unol â'r meini prawf ar gyfer trefi Masnach Deg fel y dynodwyd gan y Sefydliad Masnach Deg
  • Cyflwyno cyfrifon y Grwp
  • Ethol Swyddogion

Cyllid

Defnyddir unrhyw arian a godir ar gyfer yr amcanion a osodwyd yng Nghymal 2.

Y Grwp i agor cyfrif banc o dan yr enw : Grwp Llywio Tref Fasnach Deg Aberhonddu. Bydd angen llofnod dau o swyddogion y Grwp ar gyfer tynnu arian allan.

Bydd cyfrif o incwm a gwariant y Grwp yn cael ei gadw gan y Trysorydd. Dylid cyflwyno adroddiad byr gerbron pob cyfarfod o'r Grwp gyda chyfrifon llawn yn cael eu cyflwyno yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.


Newidiadau i'r Cyfansoddiad:

Ni ellir newid y Cyfansoddiad ond drwy Gyfarfod Cyffredinol Arbennig yn unig a dylid cynnal a hysbysebu'r cyfarfod yn yr un modd â'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae'n ofynnol i o leiaf ddwy ran o dair y rheini sy'n bresennol i gytuno ar y fath newidiadau.


Diddymu:

Mae'n bosibl i'r Grwp gael ei ddiddymu drwy fwyafrif o ddwy ran o dair o'r rheini sy'n bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a gynhelir at y diben hwn.

Trosglwyddir unrhyw asedion sy'n weddill, ar ôl ymdrin ag unrhyw ddyledion a rhwymedigaethau, i sefydliad arall sy'n ceisio hybu Masnach Deg a Chyfiawnder Masnach yn Aberhonddu neu ardal ddaearyddol ehangach.



Mabwysiadwyd y Cyfansoddiad 28/9/2005

Llofnodion




cystylltiadau:

-Cyngor y Dref Aberhonddu

-Fairtrade Foundation

-Fforwm Masnach Deg Cymru

-The British Association of Fairtrade Shops

-Canolfan Addysg Angulchedd a Dablygu Powys




Copyright© 2006 Fairtrade Brecon Initiative Ltd All rights reserved. Contact the Webmaster